1 Cronicl 7:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Meibion Issachar: Tola, Pua, Jasub a Simron, pedwar.

2. Meibion Tola: Ussi, Reffaia, Jeriel, Jabmai, Jibsam a Semuel, pennau-teuluoedd. Yn nyddiau Dafydd yr oedd dwy fil ar hugain a chwe chant o ddisgynyddion Tola yn ddynion abl yn ôl eu rhestrau.

3. Mab Ussi: Israhïa; meibion Israhïa: Michael, Obadeia, Joel ac Isia. Yr oeddent yn bump i gyd, a phob un ohonynt yn bennaeth.

4. Yn ogystal â hwy, yn ôl rhestrau eu teuluoedd, yr oedd un fil ar bymtheg ar hugain o filwyr yn barod i ryfel, oherwydd yr oedd ganddynt lawer o wragedd a phlant.

1 Cronicl 7