1 Cronicl 6:53-62 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

53. Sadoc ei fab yntau, Ahimaas ei fab yntau.

54. Dyma lle'r oeddent yn byw y tu mewn i ffiniau eu tiriogaeth: i deulu'r Cohathiaid o feibion Aaron (am fod y coelbren wedi syrthio arnynt hwy)

55. rhoesant Hebron yng ngwlad Jwda a'r cytir o'i hamgylch;

56. ond rhoesant feysydd y ddinas a'i phentrefi i Caleb fab Jeffunne.

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

61. I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.

62. I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.

1 Cronicl 6