1 Cronicl 5:22-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. (Am mai rhyfel Duw oedd hwn, yr oedd llawer wedi marw o'u clwyfau.) A buont yn byw yno yn eu lle hyd gyfnod y gaethglud.

23. Yr oedd hanner llwyth Manasse yn byw yn y tir rhwng Basan, Baal-hermon, Senir a Mynydd Hermon, ac yr oedd llawer ohonynt.

24. Y rhain oedd eu pennau-teuluoedd: Effer, Isi, Eliel, Asriel, Jeremeia, Hodafia, Jadiel; gwŷr blaenllaw ac enwog oedd y pennau-teuluoedd hyn.

25. Ond buont yn anffyddlon i Dduw eu hynafiaid, a phuteinio gyda duwiau pobl y wlad yr oedd Duw wedi eu dinistrio o'u blaenau.

26. Felly anogodd Duw Israel Pul, hynny yw Tiglath-pileser brenin Asyria, i fynd â'r Reubeniaid a'r Gadiaid a hanner llwyth Manasse i gaethglud. Aeth yntau â hwy i Hala, Habor, Hara ac afon Gosan, ac yno y maent hyd heddiw.

1 Cronicl 5