4. Dewisodd ARGLWYDD Dduw Israel fyfi o'm holl deulu i fod yn frenin ar Israel am byth; dewisodd Jwda i arwain, ac o fewn Jwda fy nheulu i, ac o blith meibion fy nhad, i mi y rhoes y fraint o fod yn frenin ar Israel gyfan.
5. O'm holl feibion—ac fe roddodd yr ARGLWYDD lawer ohonynt imi—fe ddewisodd fy mab Solomon i eistedd ar orsedd frenhinol yr ARGLWYDD dros Israel.
6. Dywedodd wrthyf, ‘Dy fab Solomon sydd i adeiladu fy nhŷ a'm cynteddau, oherwydd dewisais ef yn fab imi, a byddaf finnau'n dad iddo yntau.
7. Sefydlaf ei frenhiniaeth ef am byth, os bydd yn ymdrechu i gadw fy ngorchmynion a'm cyfreithiau fel y gwneir heddiw.’
8. Yn awr, yng ngŵydd holl Israel, sef cynulleidfa yr ARGLWYDD, ac yng nghlyw ein Duw ni, gofalwch gadw holl orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, er mwyn i chwi feddiannu'r wlad dda hon a'i gadael yn etifeddiaeth i'ch meibion am byth.
9. A thithau, Solomon fy mab, bydded i ti adnabod Duw dy dad, a'i wasanaethu ef â chalon berffaith ac ysbryd ewyllysgar, oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn chwilio pob calon ac yn deall holl ddychymyg y meddwl. Os ceisi ef, fe'i cei; ond os gwrthodi ef, bydd yntau'n dy wrthod dithau am byth.