1 Cronicl 24:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Gan fod mwy o ddynion blaenllaw ymysg meibion Eleasar na meibion Ithamar, rhannwyd hwy fel hyn: o feibion Eleasar, un ar bymtheg o bennau-teuluoedd, ac o feibion Ithamar, wyth.

5. Dosbarthwyd y naill a'r llall trwy goelbren, gan fod swyddogion y cysegr a swyddogion Duw o blith meibion Eleasar a meibion Ithamar.

6. Cofrestrwyd eu henwau gan Semaia fab Nathaneel, ysgrifennydd o lwyth Lefi, yng ngŵydd y brenin, y swyddogion, Sadoc yr offeiriad, Ahimelech fab Abiathar, a phennau-teuluoedd yr offeiriaid a'r Lefiaid, a dewiswyd un teulu o feibion Eleasar ac un o feibion Ithamar.

7. Syrthiodd y coelbren cyntaf ar Jehoiarib, yr ail ar Jedaia,

1 Cronicl 24