1 Cronicl 23:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. O'r rhain yr oedd pedair mil ar hugain i arolygu'r gwaith yn nhŷ'r ARGLWYDD, chwe mil i fod yn swyddogion ac yn farnwyr,

5. pedair mil yn borthorion, a phedair mil i foli'r ARGLWYDD â'r offerynnau mawl a wnaeth Dafydd.

6. Rhannodd Dafydd hwy yn ddosbarthiadau yn ôl meibion Lefi, sef Gerson, Cohath a Merari.

7. Meibion Gerson: Ladan a Simei.

8. Meibion Ladan: Jehiel yn gyntaf, yna Setham a Joel, tri.

9. Meibion Simei: Selomith, Hasiel a Haran, tri. Y rhain oedd pennau-teuluoedd Ladan.

10. Meibion Simei: Jahath, Sisa, Jeus a Bereia. Dyma bedwar mab Simei,

1 Cronicl 23