1 Cronicl 21:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Ond dywedodd y brenin wrth Ornan, “Na, rhaid i mi ei brynu am ei lawn werth. Ni chymeraf yr hyn sydd eiddot ti ac aberthu i'r ARGLWYDD boethoffrwm di-gost.”

25. Felly talodd Dafydd chwe chan sicl o aur wrth eu pwysau i Ornan am y lle;

26. a chododd yno allor i'r ARGLWYDD, ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau. Galwodd ar yr ARGLWYDD, ac atebodd yntau ef trwy anfon tân o'r nefoedd ar allor y poethoffrwm.

27. A gorchmynnodd yr ARGLWYDD i'r angel roi ei gleddyf yn ôl yn ei wain.

1 Cronicl 21