1 Cronicl 17:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yn wir, nid wyf wedi preswylio mewn tŷ o'r diwrnod y dygais Israel allan o'r Aifft hyd heddiw; yr oeddwn yn mynd o babell i babell ac o un tabernacl i'r llall.

6. Ple bynnag y bûm yn teithio gyda holl Israel, a fu imi yngan gair wrth unrhyw un o farnwyr Israel, a benodais i fugeilio fy mhobl, a gofyn, “Pam na fyddech wedi adeiladu tŷ o gedrwydd i mi?” ’

7. Felly dywed wrth fy ngwas Dafydd, ‘Fel hyn y dywed ARGLWYDD y Lluoedd: Myfi a'th gymerodd di o'r maes, o ganlyn defaid, i fod yn arweinydd i'm pobl Israel.

1 Cronicl 17