1 Cronicl 16:27-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Y mae anrhydedd a mawredd o'i flaen,nerth a llawenydd yn ei fangre ef.

28. Rhowch i'r ARGLWYDD, dylwythau'r cenhedloedd,rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd a nerth;

29. rhowch i'r ARGLWYDD anrhydedd ei enw,dygwch offrwm a dewch o'i flaen.Ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.

30. Crynwch o'i flaen, yr holl ddaear;yn awr y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir.

31. Bydded y nefoedd yn llawen a gorfoledded y ddaear,a dywedent ymhlith y cenhedloedd, “Y mae'r ARGLWYDD yn frenin.”

32. Rhued y môr a'r cyfan sydd ynddo,llawenyched y maes a phopeth sydd ynddo.

33. Yna bydd prennau'r goedwig yn canu'n llaweno flaen yr ARGLWYDD, oherwydd y mae'n dod i farnu'r ddaear.

34. Diolchwch i'r ARGLWYDD, oherwydd da yw,ac y mae ei gariad hyd byth.

1 Cronicl 16