1 Cronicl 16:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. Canwch i'r ARGLWYDD, yr holl ddaear,cyhoeddwch o ddydd i ddydd ei iachawdwriaeth.

24. Dywedwch am ei ogoniant ymysg y bobloedd,ac am ei ryfeddodau ymysg yr holl genhedloedd.

25. Oherwydd mawr yw'r ARGLWYDD, a theilwng iawn o fawl;y mae i'w ofni'n fwy na'r holl dduwiau.

26. Eilunod yw holl dduwiau'r bobloedd,ond yr ARGLWYDD a wnaeth y nefoedd.

1 Cronicl 16