1 Cronicl 15:14-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Felly sancteiddiodd yr offeiriaid a'r Lefiaid eu hunain i ddod ag arch ARGLWYDD Dduw Israel i fyny.

15. Ac fe gludodd y Lefiaid arch Duw ar eu hysgwyddau â pholion, fel y gorchmynnodd Moses yn ôl gair yr ARGLWYDD.

16. Rhoddodd Dafydd orchymyn i benaethiaid y Lefiaid osod eu brodyr yn gerddorion i ganu mawl yn llawen gydag offer cerdd, sef nablau, telynau a symbalau.

17. Felly etholodd y Lefiaid Heman fab Joel ac, o'i frodyr, Asaff fab Berecheia; a hefyd Ethnan fab Cusaia o blith eu brodyr, meibion Merari.

18. A chyda hwy eu brodyr o'r ail radd: y porthorion Sechareia, Jaasiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Benaia, Maaseia, Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom a Jehiel.

19. Heman, Asaff ac Ethan, y cerddorion, oedd i seinio'r symbalau pres.

20. Sechareia, Asiel, Semiramoth, Jehiel, Unni, Eliab, Maaseia a Benaia oedd i ganu nablau ar Alamoth.

21. Matitheia, Eliffele, Micneia, Obed-edom, Jehiel ac Asaseia oedd i ganu'r telynau ac arwain ar Seminith.

22. Chenaneia, pennaeth y Lefiaid, oedd yn gofalu am y canu, ac ef oedd yn ei ddysgu i eraill am ei fod yn hyddysg ynddo.

23. Berecheia ac Elcana oedd i fod yn borthorion i'r arch.

24. Sebaneia, Jehosaffat, Nathaneel, Amisai, Sechareia, Benaia ac Elieser, yr offeiriaid, oedd i ganu'r trwmpedau o flaen arch Duw; yr oedd Obed-edom a Jeheia hefyd i fod yn borthorion i'r arch.

25. Felly aeth Dafydd a henuriaid Israel a phenaethiaid y miloedd i ddod ag arch cyfamod yr ARGLWYDD i fyny o dŷ Obed-edom mewn llawenydd.

26. Ac am i Dduw gynorthwyo'r Lefiaid oedd yn cario arch cyfamod yr ARGLWYDD, aberthasant saith o fustych a saith o hyrddod.

1 Cronicl 15