1 Cronicl 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Wedi iddo ymgynghori â chapteiniaid y miloedd a'r cannoedd, ac â'r holl swyddogion,

2. dywedodd Dafydd wrth holl gynulleidfa Israel, “Os ydych yn cytuno, ac os dyma ewyllys yr ARGLWYDD ein Duw, gadewch inni anfon gair at ein perthnasau sydd ar ôl yn holl wlad Israel, a hefyd at yr offeiriaid a'r Lefiaid sydd mewn dinasoedd gyda chytir, yn gofyn iddynt ymuno â ni.

3. Yna down ag arch ein Duw yn ôl atom, oherwydd yn nyddiau Saul yr oeddem yn ei hesgeuluso.”

4. Cytunodd yr holl gynulleidfa i wneud felly am fod y peth yn dderbyniol gan bawb.

1 Cronicl 13