1 Cronicl 12:8-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Aeth rhai o'r Gadiaid at Ddafydd i'r gaer yn yr anialwch. Gwŷr nerthol oeddent, milwyr profiadol mewn brwydr, yn fedrus â tharian a gwaywffon, yn edrych fel llewod ac mor gyflym â gafrewigod ar y mynyddoedd.

9. Y cyntaf oedd Eser, yr ail Obadeia, y trydydd Eliab,

10. y pedwerydd Mismanna, y pumed Jeremeia,

11. y chweched Attai, y seithfed Eliel,

12. yr wythfed Johanan, y nawfed Elsabad,

13. y degfed Jeremeia a'r unfed ar ddeg Machbanai.

14. Gadiaid oedd y rhain, a phenaethiaid y fyddin; yr oedd cant o ddynion dan y lleiaf ohonynt a mil dan y pwysicaf.

15. Dyma'r rhai a groesodd yr Iorddonen yn y mis cyntaf, pan oedd yr afon wedi gorlifo'i glannau, gan yrru ar ffo bawb oedd yn byw yn y dyffrynnoedd i'r dwyrain a'r gorllewin.

16. Daeth rhai o wŷr Benjamin a Jwda i'r gaer at Ddafydd,

17. ac aeth yntau allan atynt a dweud, “Os daethoch ataf mewn heddwch i'm cynorthwyo, yr wyf yn barod i ymuno â chwi. Ond os daethoch i'm bradychu i'm gelynion, a minnau'n ddieuog, bydded i Dduw ein tadau sylwi a chosbi.”

18. Yna meddiannwyd Amasai, pennaeth y Deg ar Hugain, gan yr ysbryd, ac meddai:“Yr ydym ni gyda thi, Ddafydd!Yr ydym o'th blaid, fab Jesse!Llwydd, llwydd fo i ti,a llwydd i'th gynorthwywr!Oherwydd dy Dduw yw dy gymorth.”Felly croesawodd Dafydd hwy a'u gwneud yn benaethiaid ar finteioedd.

19. Ciliodd rhai o wŷr Manasse at Ddafydd pan ddaeth ef gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond ni chynorthwyodd ef y Philistiaid am i'w tywysogion, wedi ymgynghori â'i gilydd, ei yrru i ffwrdd gan ddweud, “Pe bai'n dychwelyd at ei feistr Saul fe gaem ein lladd.”

20. Y rhain oedd y gwŷr o Manasse a ddaeth ato pan oedd ar y ffordd i Siclag: Adna, Josabad, Jediael, Michael, Josabad, Elihu a Silthai, penaethiaid miloedd ym Manasse.

21. Buont hwy o gymorth i Ddafydd yn erbyn yr ysbeilwyr am eu bod i gyd yn wŷr nerthol ac yn gapteiniaid yn y fyddin.

22. Beunydd yr oedd rhai yn dod i gynorthwyo Dafydd, nes bod y gwersyll wedi tyfu'n un mawr iawn.

23. Dyma nifer penaethiaid y lluoedd arfog a ddaeth at Ddafydd yn Hebron i roi brenhiniaeth Saul iddo, yn ôl gair yr ARGLWYDD:

24. o feibion Jwda a gludai darian a gwaywffon, chwe mil wyth gant yn y lluoedd arfog;

1 Cronicl 12