1 Cronicl 12:33-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. o Sabulon, hanner can mil o ddynion arfog, profiadol mewn rhyfel a pharod eu cymorth;

34. o Nafftali, mil o dywysogion, a chyda hwy, yn cario tarian a gwaywffon, dwy fil ar bymtheg ar hugain;

35. o'r Daniaid, wyth mil ar hugain chwe chant yn barod i ryfel;

36. o Aser, deugain mil o filwyr yn barod i fynd allan i ryfela;

1 Cronicl 12