1 Cronicl 12:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. o feibion Lefi, pedair mil chwe chant,

27. yn ogystal â Jehoiada arweinydd yr Aaroniaid gyda thair mil saith gant,

28. a Sadoc, llanc dewr, gyda dau ar hugain o gapteiniaid o dŷ ei dad;

29. o feibion Benjamin, brodyr Saul, tair mil a oedd hyd yr amser hwnnw yng ngwasanaeth tŷ Saul;

30. o feibion Effraim, ugain mil wyth gant o wŷr nerthol, dynion oedd yn enwog yn eu teuluoedd;

31. o hanner llwyth Manasse, deunaw mil o wŷr a etholwyd i ddod a gwneud Dafydd yn frenin;

1 Cronicl 12