1 Cronicl 12:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Ciliodd rhai o wŷr Manasse at Ddafydd pan ddaeth ef gyda'r Philistiaid i ymladd yn erbyn Saul. Ond ni chynorthwyodd ef y Philistiaid am i'w tywysogion, wedi ymgynghori â'i gilydd, ei yrru i ffwrdd gan ddweud, “Pe bai'n dychwelyd at ei feistr Saul fe gaem ein lladd.”

20. Y rhain oedd y gwŷr o Manasse a ddaeth ato pan oedd ar y ffordd i Siclag: Adna, Josabad, Jediael, Michael, Josabad, Elihu a Silthai, penaethiaid miloedd ym Manasse.

21. Buont hwy o gymorth i Ddafydd yn erbyn yr ysbeilwyr am eu bod i gyd yn wŷr nerthol ac yn gapteiniaid yn y fyddin.

22. Beunydd yr oedd rhai yn dod i gynorthwyo Dafydd, nes bod y gwersyll wedi tyfu'n un mawr iawn.

1 Cronicl 12