16. Oherwydd os wyf yn pregethu'r Efengyl, nid yw hynny'n achos ymffrost i mi, gan fod rheidrwydd wedi ei osod arnaf. Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl!
17. Os o'm gwirfodd yr wyf yn gwneud hyn, y mae imi dâl; ond os o'm hanfodd, yr wyf yn gwneud gorchwyl sydd wedi ei ymddiried imi.
18. Beth, felly, yw fy nhâl? Hyn ydyw: fy mod, wrth bregethu'r Efengyl, yn ei chyflwyno am ddim, heb fanteisio o gwbl ar fy hawl yn yr Efengyl.
19. Oherwydd, er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, yr wyf wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill rhagor ohonynt.
20. I'r Iddewon, euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon. I'r rhai sydd dan y Gyfraith, fel un ohonynt hwy—er nad wyf fy hunan dan y Gyfraith—er mwyn ennill y rhai sydd dan y Gyfraith.
21. I'r rhai sydd heb y Gyfraith, fel un ohonynt hwythau—er nad wyf heb Gyfraith Duw, gan fy mod dan Gyfraith Crist—er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith.
22. I'r gweiniaid, euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, achub rhai.
23. Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.
24. Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.
25. Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.
26. Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â'r nod yn sicr o'i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy'n curo'r awyr â'i ddyrnau.