1 Corinthiaid 4:10-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ni yn ffyliaid er mwyn Crist, chwithau'n rhai call yng Nghrist! Ni yn wan, chwithau'n gryf! Chwi'n llawn anrhydedd, ninnau heb ddim parch!

11. Hyd yr awr hon y mae arnom newyn a syched, yr ydym yn noeth, yn cael ein cernodio, yn ddigartref,

12. yn blino gan lafur ein dwylo ein hunain. Ein hateb i'r difenwi sydd arnom yw bendithio; i'r erlid, goddef;

13. i'r enllib, geiriau caredig. Fe'n gwnaethpwyd yn garthion y byd, yn olchion pawb, hyd yn awr.

14. Nid i godi cywilydd arnoch yr wyf yn ysgrifennu hyn, ond i'ch rhybuddio, fel plant annwyl i mi.

15. Pe byddai gennych ddeng mil o hyfforddwyr yng Nghrist, eto ni fyddai gennych fwy nag un tad, oherwydd yng Nghrist Iesu myfi a ddeuthum yn dad i chwi drwy'r Efengyl.

16. Am hynny yr wyf yn erfyn arnoch, byddwch efelychwyr ohonof fi.

1 Corinthiaid 4