1 Corinthiaid 3:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig:“Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra”,

20. ac eto:“Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion,mai ofer ydynt.”

21. Felly peidied neb ag ymffrostio mewn arweinwyr dynol. Oherwydd y mae pob peth yn eiddo i chwi—

22. Paul, Apolos, Ceffas, y byd, bywyd, angau, y presennol, y dyfodol—pob peth yn eiddo i chwi,

23. a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.

1 Corinthiaid 3