1 Corinthiaid 16:17-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi.

18. Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.

19. Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd.

20. Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

21. Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul.

22. Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha.

23. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi!

24. Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!

1 Corinthiaid 16