1 Corinthiaid 1:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.

26. Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel.

27. Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn,

28. a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd.

29. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw.

1 Corinthiaid 1