1 Brenhinoedd 6:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yn y flwyddyn pedwar cant wyth deg ar ôl i'r Israeliaid ddod allan o wlad yr Aifft, ym mhedwaredd flwyddyn ei deyrnasiad ar Israel, ym mis Sif, yr ail fis, dechreuodd Solomon adeiladu tŷ'r ARGLWYDD.

2. Yr oedd y tŷ a adeiladodd y Brenin Solomon i'r ARGLWYDD yn drigain cufydd ei hyd, yn ugain cufydd ei led ac yn ddeg cufydd ar hugain ei uchder.

3. Yr oedd y cyntedd o flaen corff y tŷ yn ugain cufydd ei hyd, gyda lled y tŷ, a deg cufydd o led o flaen y tŷ.

4. A gwnaeth ffenestri i'r tŷ yn goleuo at i lawr trwy ddelltwaith.

5. Cododd adeilad yn erbyn mur y tŷ o gylch corff y tŷ a'r cysegr mewnol; a gwnaeth fwtresi o amgylch.

1 Brenhinoedd 6