1 Brenhinoedd 3:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ymddangosodd yr ARGLWYDD i Solomon yn Gibeon mewn breuddwyd liw nos; a dywedodd DUW, “Gofyn beth bynnag a fynni gennyf.”

6. Dywedodd Solomon, “Buost yn ffyddlon iawn i'm tad Dafydd, dy was, am iddo rodio gyda thi mewn gwirionedd a chyfiawnder a chywirdeb calon. Ie, parheaist yn ffyddlon iawn iddo, a rhoi iddo fab i eistedd ar ei orseddfainc heddiw.

7. Yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, gwnaethost dy was yn frenin yn lle fy nhad Dafydd, a minnau'n llanc ifanc, dibrofiad.

8. Ac y mae dy was yng nghanol dy ddewis bobl, sy'n rhy niferus i'w rhifo na'u cyfrif.

9. Felly rho i'th was galon ddeallus i farnu dy bobl, i ddirnad da a drwg; oherwydd pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?”

10. Bu'n dderbyniol yng ngolwg yr ARGLWYDD i Solomon ofyn y peth hwn,

1 Brenhinoedd 3