1 Brenhinoedd 2:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Pan ddaeth y newydd at Joab, a fu'n cefnogi Adoneia—er na chefnogodd Absalom—fe ffodd i babell yr ARGLWYDD a chydiodd yng nghyrn yr allor.

29. Dywedwyd wrth y Brenin Solomon fod Joab wedi ffoi i babell yr ARGLWYDD a'i fod wrth yr allor. Yna anfonwyd Benaia fab Jehoiada gan Solomon â'r gorchymyn, “Dos ac ymosod arno.”

30. Wedi i Benaia ddod i babell yr ARGLWYDD, dywedodd wrtho, “Fel hyn y dywedodd y brenin, ‘Tyrd allan’.” Atebodd yntau, “Na, yma y byddaf farw.”

31. Pan ddygodd Benaia adroddiad yn ôl at y brenin, a mynegi beth oedd ateb Joab, dywedodd y brenin wrtho, “Gwna fel y dywedodd; lladd ef, a'i gladdu, a symud oddi wrthyf ac oddi wrth fy nhylwyth euogrwydd y gwaed a dywalltodd Joab yn ddiachos.

1 Brenhinoedd 2