5. A dywedodd Ahab wrth Obadeia, “Cerdda drwy'r wlad i bob ffynnon a nant, ac efallai y down o hyd i laswellt, a chadw'r ceffylau a'r mulod yn fyw, rhag inni golli pob anifail.”
6. Ac wedi rhannu'r wlad rhyngddynt i gerdded drwyddi, aeth Ahab ei hun un ffordd, ac Obadeia ffordd arall.
7. A phan oedd Obadeia ar ei ffordd, daeth Elias i'w gyfarfod; adnabu yntau ef, a syrthio ar ei wyneb a dweud, “Ai ti sydd yna, f'arglwydd Elias?”
8. “Ie,” atebodd yntau, “dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael.”
9. Ond meddai hwnnw, “Beth yw fy mai, dy fod yn rhoi dy was yn llaw Ahab i'm lladd?
10. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, ‘Nid yw yma’, byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.