1 Brenhinoedd 18:10-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Cyn wired â bod yr ARGLWYDD dy Dduw yn fyw, nid oes na chenedl na theyrnas nad yw f'arglwydd wedi anfon yno i'th geisio; a phan ddywedent, ‘Nid yw yma’, byddai'n mynnu i'r deyrnas neu'r genedl dyngu llw nad oeddent wedi dy weld.

11. A dyma ti'n dweud wrthyf, ‘Dos a dywed wrth dy arglwydd fod Elias ar gael’!

12. Cyn gynted ag yr af oddi wrthyt, bydd ysbryd yr ARGLWYDD yn dy gipio, ni wn i ble. Ac os af i ddweud wrth Ahab, ac yntau'n methu dy gael, bydd yn fy lladd—ac y mae dy was wedi ofni'r ARGLWYDD er pan oedd yn fachgen.

1 Brenhinoedd 18