1 Brenhinoedd 16:32-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Cododd Ahab allor i Baal yn nhŷ Baal, a adeiladodd yn Samaria, a hefyd fe wnaeth ddelw o Asera.

33. Gwnaeth fwy i ddigio ARGLWYDD Dduw Israel na holl frenhinoedd Israel o'i flaen.

34. Yn ei adeg ef ailadeiladwyd Jericho gan Hiel o Fethel. Yr oedd ei sylfaenu wedi costio iddo Abiram, ei gyntafanedig, a gosod ei dorau wedi costio iddo Segub ei fab ieuengaf—yn unol â gair yr ARGLWYDD drwy Josua fab Nun.

1 Brenhinoedd 16