1 Brenhinoedd 13:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Yna drylliwyd yr allor a chwalwyd y lludw o'r allor, yn unol â'r argoel a roddodd gŵr Duw drwy air yr ARGLWYDD.

6. Yna dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Ymbil â'r ARGLWYDD dy Dduw a gweddïa ar fy rhan fel y caiff fy llaw ei hadfer.” Ymbiliodd gŵr Duw ar yr ARGLWYDD, ac adferwyd llaw'r brenin iddo fel yr oedd cynt.

7. A dywedodd y brenin wrth ŵr Duw, “Tyrd adref gyda mi am damaid, imi roi rhodd iti.”

8. Ond dywedodd y proffwyd wrth y brenin, “Petait yn rhoi imi hanner dy dŷ, ni ddown gyda thi; nid wyf am fwyta tamaid nac yfed llymaid yn y lle hwn.

9. Fel hyn y gorchmynnwyd imi drwy air yr ARGLWYDD, i beidio â bwyta nac yfed dim, na dychwelyd y ffordd y deuthum.”

1 Brenhinoedd 13