1 Brenhinoedd 13:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

17. Dyma'r neges a gefais drwy air yr ARGLWYDD: ‘Paid â bwyta bara nac yfed dim yno, na dychwelyd y ffordd yr aethost.’ ”

18. Ond dywedodd y proffwyd oedrannus wrtho, “Yr wyf finnau'n broffwyd fel ti, ac y mae angel wedi dweud wrthyf drwy air yr ARGLWYDD, ‘Dos ag ef yn ôl gyda thi adref i fwyta bara ac yfed dŵr.’ ” Ond dweud celwydd wrtho yr oedd.

19. Aeth yntau'n ôl gydag ef, a bwyta ac yfed yn ei gartref.

20. Tra oeddent yn eistedd wrth y bwrdd, daeth gair yr ARGLWYDD at y proffwyd a'i dygodd yn ôl,

21. a chyhoeddodd wrth ŵr Duw a ddaeth o Jwda, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Am iti wrthod yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD, a pheidio â chadw gorchymyn yr ARGLWYDD dy Dduw,

1 Brenhinoedd 13