Y Salmau 99:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin, cryna'r bobloedd;y mae wedi ei orseddu uwch y cerwbiaid, ysgydwa'r ddaear.

2. Y mae'r ARGLWYDD yn fawr yn Seion,y mae'n ddyrchafedig uwch yr holl bobloedd.

3. Bydded iddynt foli dy enw mawr ac ofnadwy—sanctaidd yw ef.

4. Un cryf sydd frenin; y mae'n caru cyfiawnder.Ti sydd wedi sefydlu uniondeb;gwnaethost farn a chyfiawnder yn Jacob.

Y Salmau 99