Y Salmau 94:14-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Oherwydd nid yw'r ARGLWYDD yn gwrthod ei bobl,nac yn gadael ei etifeddiaeth;

15. oherwydd dychwel barn at y rhai cyfiawn,a bydd yr holl rai uniawn yn ei dilyn.

16. Pwy a saif drosof yn erbyn y drygionus,a sefyll o'm plaid yn erbyn gwneuthurwyr drygioni?

17. Oni bai i'r ARGLWYDD fy nghynorthwyobyddwn yn fuan wedi mynd i dir distawrwydd.

18. Pan oeddwn yn meddwl bod fy nhroed yn llithro,yr oedd dy ffyddlondeb di, O ARGLWYDD, yn fy nghynnal.

19. Er bod pryderon fy nghalon yn niferus,y mae dy gysuron di'n fy llawenhau.

Y Salmau 94