Y Salmau 78:60-65 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

60. gadawodd ei drigfan yn Seilo,y babell lle'r oedd yn byw ymysg pobl;

61. gadawodd i'w gadernid fynd i gaethglud,a'i ogoniant i ddwylo gelynion;

62. rhoes ei bobl i'r cleddyf,a thywallt ei lid ar ei etifeddiaeth.

63. Ysodd tân eu gwŷr ifainc,ac nid oedd gân briodas i'w morynion;

64. syrthiodd eu hoffeiriaid trwy'r cleddyf,ac ni allai eu gweddwon alaru.

65. Yna, cododd yr Arglwydd, fel o gwsg,fel rhyfelwr yn cael ei symbylu gan win.

Y Salmau 78