Y Salmau 78:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwrandewch fy nysgeidiaeth, fy mhobl,gogwyddwch eich clust at eiriau fy ngenau.

2. Agoraf fy ngenau mewn dihareb,a llefaraf ddamhegion o'r dyddiau gynt,

3. pethau a glywsom ac a wyddom,ac a adroddodd ein hynafiaid wrthym.

4. Ni chuddiwn hwy oddi wrth eu disgynyddion,ond adroddwn wrth y genhedlaeth sy'n dodweithredoedd gogoneddus yr ARGLWYDD, a'i rym,a'r pethau rhyfeddol a wnaeth.

5. Fe roes ddyletswydd ar Jacob,a gosod cyfraith yn Israel,a rhoi gorchymyn i'n hynafiaid,i'w dysgu i'w plant;

6. er mwyn i'r to sy'n codi wybod,ac i'r plant sydd heb eu geni etoddod ac adrodd wrth eu plant;

7. er mwyn iddynt roi eu ffydd yn Nuw,a pheidio ag anghofio gweithredoedd Duw,ond cadw ei orchmynion;

8. rhag iddynt fod fel eu tadauyn genhedlaeth gyndyn a gwrthryfelgar,yn genhedlaeth รข'i chalon heb fod yn gadarna'i hysbryd heb fod yn ffyddlon i Dduw.

Y Salmau 78