Y Salmau 69:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. oherwydd erlidiant yr un a drewaist ti,a lluosogant friwiau'r rhai a archollaist.

27. Rho iddynt gosb ar ben cosb;na chyfiawnhaer hwy gennyt ti.

28. Dileer hwy o lyfr y rhai byw,ac na restrer hwy gyda'r cyfiawn.

29. Yr wyf fi mewn gofid a phoen;trwy dy waredigaeth, O Dduw, cod fi i fyny.

30. Moliannaf enw Duw ar gân,mawrygaf ef â diolchgarwch.

Y Salmau 69