Y Salmau 69:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Y mae gwarth wedi torri fy nghalon,ac yr wyf mewn anobaith;disgwyliais am dosturi, ond heb ei gael,ac am rai i'm cysuro, ond nis cefais.

21. Rhoesant wenwyn yn fy mwyd,a gwneud imi yfed finegr at fy syched.

22. Bydded eu bwrdd eu hunain yn rhwyd iddynt,yn fagl i'w cyfeillion.

23. Tywyller eu llygaid rhag iddynt weld,a gwna i'w cluniau grynu'n barhaus.

24. Tywallt dy ddicter arnynt,a doed dy lid mawr ar eu gwarthaf.

Y Salmau 69