Y Salmau 69:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Pan wylaf wrth ymprydio,fe'i hystyrir yn waradwydd i mi;

11. pan wisgaf sachliain amdanaf,fe'm gwneir yn ddihareb iddynt.

12. Y mae'r rhai sy'n eistedd wrth y porth yn siarad amdanaf,ac yr wyf yn destun i watwar y meddwon.

13. Ond daw fy ngweddi i atat, O ARGLWYDD.Ar yr amser priodol, O Dduw,ateb fi yn dy gariad mawrgyda'th waredigaeth sicr.

14. Gwared fi o'r llaid rhag imi suddo,achuber fi o'r mwd ac o'r dyfroedd dyfnion.

Y Salmau 69