Y Salmau 66:7-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Y mae ef yn llywodraethu â'i nerth am byth,a'i lygaid yn gwylio dros y cenhedloedd;na fydded i'r gwrthryfelwyr godi yn ei erbyn!Sela

8. Bendithiwch ein Duw, O bobloedd,a seiniwch ei fawl yn glywadwy.

9. Ef a roes le i ni ymysg y byw,ac ni adawodd i'n troed lithro.

10. Oherwydd buost yn ein profi, O Dduw,ac yn ein coethi fel arian.

11. Dygaist ni i'r rhwyd,rhoist rwymau amdanom,

Y Salmau 66