Y Salmau 66:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,aethom trwy dân a dyfroedd;ond dygaist ni allan i ryddid.

13. Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14. a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15. Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,a hefyd hyrddod yn arogldarth;darparaf ychen a bychod geifr.Sela

16. Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

Y Salmau 66