Y Salmau 61:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Clyw fy nghri, O Dduw,a gwrando ar fy ngweddi;

2. o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,pan yw fy nghalon ar suddo.Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;

3. oherwydd buost ti'n gysgod imi,yn dŵr cadarn rhag y gelyn.

4. Gad imi aros yn dy babell am byth,a llochesu dan gysgod dy adenydd.Sela

Y Salmau 61