Y Salmau 6:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. ARGLWYDD, paid â'm ceryddu yn dy ddig,paid â'm cosbi yn dy lid.

2. Bydd drugarog wrthyf, O ARGLWYDD, oherwydd yr wyf yn llesg;iachâ fi, ARGLWYDD, oherwydd brawychwyd fy esgyrn,

3. y mae fy enaid mewn arswyd mawr.Tithau, ARGLWYDD, am ba hyd?

4. Dychwel, ARGLWYDD, gwared fy enaid;achub fi er mwyn dy ffyddlondeb.

5. Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau;pwy sy'n dy foli di yn Sheol?

6. Yr wyf wedi diffygio gan fy nghwynfan;bob nos y mae fy ngwely'n foddfa,trochaf fy ngobennydd â'm dagrau.

7. Pylodd fy llygaid gan ofid,a phallu oherwydd fy holl elynion.

Y Salmau 6