Y Salmau 52:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ŵr grymus, pam yr ymffrosti yn dy ddrygioniyn erbyn y duwiol yr holl amser?

2. Yr wyt yn cynllwyn distryw;y mae dy dafod fel ellyn miniog,ti dwyllwr.

3. Yr wyt yn caru drygioni'n fwy na daioni,a chelwydd yn fwy na dweud y gwir.Sela

4. Yr wyt yn caru pob gair difaolac iaith dwyllodrus.

Y Salmau 52