Y Salmau 44:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. o achos llais y rhai sy'n fy ngwawdio a'm difrïo,ac oherwydd y gelyn a'r dialydd.

17. Daeth hyn i gyd arnom, a ninnau heb dy anghofiona bod yn anffyddlon i'th gyfamod.

18. Ni throdd ein calon oddi wrthyt,ac ni chamodd ein traed o'th lwybrau,

19. i beri iti ein hysigo yn nhrigfa'r siacala'n gorchuddio â thywyllwch dudew.

20. Pe baem wedi anghofio enw ein Duwac estyn ein dwylo at dduw estron,

21. oni fyddai Duw wedi canfod hyn?Oherwydd gŵyr ef gyfrinachau'r galon.

Y Salmau 44