Y Salmau 37:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Na fydd yn ddig wrth y rhai drygionus,na chenfigennu wrth y rhai sy'n gwneud drwg.

2. Oherwydd fe wywant yn sydyn fel glaswellt,a chrino fel glesni gwanwyn.

3. Ymddiried yn yr ARGLWYDD a gwna ddaioni,iti gael byw yn y wlad mewn cymdeithas ddiogel.

4. Ymhyfryda yn yr ARGLWYDD,a rhydd iti ddeisyfiad dy galon.

5. Rho dy ffyrdd i'r ARGLWYDD;ymddiried ynddo, ac fe weithreda.

6. Fe wna i'th gywirdeb ddisgleirio fel goleunia'th uniondeb fel haul canol dydd.

Y Salmau 37