Y Salmau 35:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Na fydded i'm gelynion twyllodrus lawenychu o'm hachos,nac i'r rhai sy'n fy nghasáu heb achos wincio â'u llygaid.

20. Oherwydd nid ydynt yn sôn am heddwch;ond yn erbyn rhai tawel y wlady maent yn cynllwyn dichellion.

21. Y maent yn agor eu cegau yn f'erbynac yn dweud, “Aha, aha,yr ydym wedi gweld â'n llygaid!”

22. Gwelaist tithau, ARGLWYDD; paid â thewi;fy Arglwydd, paid â phellhau oddi wrthyf.

23. Ymysgwyd a deffro i wneud barn â mi,i roi dedfryd ar fy achos, fy Nuw a'm Harglwydd.

Y Salmau 35