Y Salmau 32:7-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Yr wyt ti'n gysgod i mi; cedwi fi rhag cyfyngder;amgylchi fi â chaneuon gwaredigaeth.Sela

8. Hyfforddaf di a'th ddysgu yn y ffordd a gymeri;fe gadwaf fy ngolwg arnat.

9. Paid â bod fel march neu ful direswmy mae'n rhaid wrth ffrwyn a genfa i'w dofi cyn y dônt atat.

10. Daw poenau lawer i'r drygionus;ond am y sawl sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD,bydd ffyddlondeb yn ei amgylchu.

Y Salmau 32