Y Salmau 31:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. Mor helaeth yw dy ddaionisydd ynghadw gennyt i'r rhai sy'n dy ofni,ac wedi ei amlygu i'r rhai sy'n cysgodi ynot,a hynny yng ngŵydd pawb!

20. Fe'u cuddi dan orchudd dy bresenoldebrhag y rhai sy'n cynllwyn;fe'u cedwi dan dy gysgodrhag ymryson tafodau.

21. Bendigedig yw'r ARGLWYDDa ddangosodd ei ffyddlondeb rhyfeddol atafyn nydd cyfyngder.

22. Yn fy nychryn fe ddywedais,“Torrwyd fi allan o'th olwg.”Ond clywaist lef fy ngweddipan waeddais arnat am gymorth.

Y Salmau 31