Y Salmau 27:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yr ARGLWYDD yw fy ngoleuni a'm gwaredigaeth,rhag pwy yr ofnaf?Yr ARGLWYDD yw cadernid fy mywyd,rhag pwy y dychrynaf?

2. Pan fydd rhai drwg yn cau amdanafi'm hysu i'r byw,hwy, fy ngwrthwynebwyr a'm gelynion,fydd yn baglu ac yn syrthio.

3. Pe bai byddin yn gwersyllu i'm herbyn,nid ofnai fy nghalon;pe dôi rhyfel ar fy ngwarthaf,eto, fe fyddwn yn hyderus.

4. Un peth a ofynnais gan yr ARGLWYDD,dyma'r wyf yn ei geisio:cael byw yn nhŷ'r ARGLWYDDholl ddyddiau fy mywyd,i edrych ar hawddgarwch yr ARGLWYDDac i ymofyn yn ei deml.

Y Salmau 27