Y Salmau 145:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Teyrnas dragwyddol yw dy deyrnas,a saif dy lywodraeth byth bythoedd.Y mae'r ARGLWYDD yn ffyddlon yn ei holl eiriau,ac yn drugarog yn ei holl weithredoedd.

14. Fe gynnal yr ARGLWYDD bawb sy'n syrthio,a chodi pawb sydd wedi eu darostwng.

15. Try llygaid pawb mewn gobaith atat ti,ac fe roi iddynt eu bwyd yn ei bryd;

16. y mae dy law yn agored,ac yr wyt yn diwallu popeth byw yn ôl d'ewyllys.

Y Salmau 145