Y Salmau 144:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. ARGLWYDD, agor y nefoedd a thyrd i lawr,cyffwrdd â'r mynyddoedd nes eu bod yn mygu;

6. saetha allan fellt nes eu gwasgaru,anfon dy saethau nes peri iddynt arswydo.

7. Estyn allan dy law o'r uchelder,i'm hachub ac i'm gwareduo ddyfroedd lawer, ac o law estroniaid

8. sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.

9. Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,

Y Salmau 144