Y Salmau 139:17-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Mor ddwfn i mi yw dy feddyliau, O Dduw,ac mor lluosog eu nifer!

18. Os cyfrifaf hwy, y maent yn amlach na'r tywod,a phe gorffennwn hynny, byddit ti'n parhau gyda mi.

19. Fy Nuw, O na fyddit ti'n lladd y drygionus,fel y byddai rhai gwaedlyd yn troi oddi wrthyf—

20. y rhai sy'n dy herio di yn ddichellgar,ac yn gwrthryfela'n ofer yn dy erbyn.

21. Onid wyf yn casáu, O ARGLWYDD, y rhai sy'n dy gasáu di,ac yn ffieiddio'r rhai sy'n codi yn dy erbyn?

Y Salmau 139